Brwydr Tewkesbury
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 4 Mai 1471 |
Rhan o | Rhyfeloedd y Rhosynnau |
Lleoliad | Tewkesbury |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brwydr yn Rhyfeloedd y Rhosynnau oedd Brwydr Tewkesbury ar 4 Mai 1471 a ymladdwyd yn ystod y nos ac a barodd tair awr, gan orffen gyda'r wawr yn torri. Yr Iorcydd Edward IV, brenin Lloegr oedd yn fuddugol. Lladdwyd dros fil o Lancastriaid a 500 o Iorciaid a bu farw Edward o Westminster, Tywysog Cymru, yn y frwydr.
Lladdwyd nifer o uchelwyr gan gynnwys: John Beaufort, dug Somerset a Warwick. Yn dilyn y frwydr, ar 21 Mai, cyrhaeddodd Lundain gyda'i filwyr, i hawlio'r Coron Lloegr; y noson honno bu farw Harri VI yn Nhŵr Llundain.[1] Tra ymladdwyd y frwydr, roedd Harri Tudur ifanc yn saff yng Nghastell Penfro a'i ewyrth Siasbar Tudur yn pendroni oblygiadau'r frwydr a pha gamau i'w cymryd i ddyrchafu Harri i'r orsedd. Yn dilyn hyn dihangodd y ddau i Benfro ac oddi yno i Lydaw.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bosworth gan Chris Skidmore; Foenix Paperback (2013) tud. 76-9